Logo

Prohibition of Driving Experimental Order 2021.

CYNNIG TRAFFIG GORCHYMYN TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Lôn Ganol, Lôn Ucha a Lôn-y-Dail, Caerdydd) (Parth i Gerddwyr) (Gwahardd Gyrru) (Arbrofol) 2021 (Diwygio) 2022 HYSBYSIR DRWY HYN fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, ar 9 Chwefror 2022, drwy arfer ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod, a’i effaith fydd diwygio’r gorchymyn arbrofol o’r enw Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Parth Cerddwyr) (Gwahardd Gyrru) (Arbrofol) (Lôn Ganol, Lôn Ucha a Lôn y Dail, Caerdydd) (Diwygiad) 2021. Effaith gyffredinol y gwelliant yw addasu’r eithriadau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau arbrofol a osodir. Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd unrhyw Gerbydau Modur rhag mynd unrhyw rannau o Ffyrdd a nodir yn yr Atodlen isod neu deithio ar eu hyd. Bydd y gwaharddiad ond yn berthnasol “Yn Ystod y Tymor” rhwng 08:30 a 09:15 a rhwng 15:00 a 15:45 ar unrhyw ddiwrnod heblaw am ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. At ddibenion yr hysbysiad hwn a’r Gorchymyn cyfatebol, ystyr “Yn Ystod y Tymor” fydd y Flwyddyn Academaidd (rhwng 1 Medi a 31 Gorffennaf) ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd yn cynnwys gwyliau ysgol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ar dudalen dyddiadau tymhorau ysgol (caerdydd.gov.uk). Caniateir eithriadau ar gyfer cerbydau sy’n arddangos trwydded ddilys â’r cyfeirnod trwydded SZ8. Gallwch gael rhagor o fanylion am drwyddedau yn www.caerdydd.gov.uk/strydoeddysgol. Mae manylion y Gorchymyn a’r cynllun sy’n dangos lleoliad a maint y cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau drwy anfon cais e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod. Daw’r Gorchymyn i rym ar 19 Chwefror 2022. Bydd y Cyngor yn ystyried maes o law a ddylai darpariaethau’r Gorchymyn hwn barhau mewn grym am gyfnod amhenodol. Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau sydd gennych i’r Gorchymyn barhau am gyfnod amhenodol yn ysgrifenedig a’u cyfeirio at y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol erbyn hanner nos ar 14 Awst 2021 (neu drwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk). Gellir datgelu gohebiaeth fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym ba un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English. Os ydych am herio dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaethau sydd ynghlwm wrtho ar y sail nad ydynt yn unol â’r pwerau a ddyfernir gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd, neu ar y sail nas cydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, o ran y Gorchymyn, gallwch, o fewn chwe wythnos i 9 Chwefror 2022, wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn. Atodlen Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Ffordd Disgrifiad Cyfeirnod trwydded 1. Lôn Ganol Ar ei hyd SZ8 2.Lôn Ucha Ar ei hyd SZ8 3.Lôn-y-Dail O’r gyffordd â Lôn Ucha i’r gyffordd â Lôn Isa SZ8 12 Chwefror 2022 DAVINA FIORE Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW TRAFFIC PROPOSALS NEW TRAFFIC ORDER FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF The County Council of the City and County of Cardiff (Lon Ganol, Lon Ucha and Lon-Y-Dail, Cardiff) (Pedestrian Zone) (Prohibition of Driving) (Experimental) Order 2021 (Amendment) Order 2022 NOTICE IS HEREBY GIVEN that on the 9th of February 2022 the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984, made the above named Order, the general effect of which is to amend the County Council of the City and County of Cardiff (Lon Ganol, Lon Ucha And Lon-Y-Dail, Cardiff) (Pedestrian Zone) (Prohibition of Driving) (Experimental) Order 2021. The general effect of the amendment is to modify the exemptions relating to the experimental restrictions imposed. The general effect of the order as amended will prohibit Motor Vehicles from entering and proceeding along any of the lengths of Roads specified in the Schedule below. This prohibition shall only apply during “Term Time” between the hours of 08:30 and 09:15 and between the hours of 15:00 and 15:45 on any day other than a Saturday or Sunday. “Term Time” for the purposes of this notice and corresponding Order shall mean the Academic Year (between 1st September and 31st July) and for the avoidance of any doubt shall exclude school holidays, further information is available at School term dates (cardiff.gov.uk). Exemptions shall be permitted for vehicles displaying a valid permit with permit reference SZ8. Further details regarding permits may be obtained from www.cardiff.gov.uk/schoolstreets. Details of the Order and plan showing the location and extent of the proposed restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below. The Order will come into force on the 19th of February 2022. The Council will be considering in due course whether the provisions of this Order should be continue to remain in force indefinitely. Any objections and other correspondence relating to the order continuing indefinitely must be submitted in writing and addressed to Director of Governance & Legal Services midnight on the 14th of August 2022 (or by email to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk). Correspondence may be disclosed as required by the Freedom of Information Act 2000. The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay. This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg. If you wish to question the validity of the Order or any provisions contained therein on the grounds that they are not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984 as amended or on the grounds that any requirement of that Act or that any instrument made under it has not been complied with in relation to the Order you may within six weeks from the 9th of February 2022 apply to the High Court for this purpose. Schedule Column 1 Column 2 Column 3 Road Description Permit reference 1. Lon Ganol Throughout its length SZ8 2. Lon Ucha Throughout its length SZ8 3. Lon-y-Dail From its junction with Lon Ucha to its junction with Lon Isa SZ8 12 February 2022 DAVINA FIORE Director for Governance & Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff CF10 4UW TM REF: 226189696-01